Chweched cyfarfod y Grwp Trawbleidiol ar yr Iaith Gymraeg
Cofnodion 4 Rhagfyr 2013 8.15y.b.
1. Cyflwyniad gan y Cadeirydd, Keith Davies AC
2. Ymddiheuriadau
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7621
4. Penderfyniad ar pwnc y cyfarfod nesaf ac ar pynciau trafod y dyfodol
5. Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, Carwyn Jones AC
6. Unrhyw fusnes arall
Yn bresennol:
Y Prif Weinidog a’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, Carwyn Jones AC
Keith Davies AC, Mike Hedges AC, Aled Roberts AC, Suzy Davies AC, Simon Thomas AC, Alun Ffred Jones AC, Rhun ap Iorwerth AC
AMSS Keith Davies AC, Julie Morgan AC, Plaid Cymru
Aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg oedd wedi cadarnhau presenoldeb: Ceri Owen (RhAG), Colin Nosworthy (Cymdeithas yr Iaith), Penri Williams, Dr Huw Thomas, Dr Hywel Glyn Lewis, Gill Griffiths (Merched y Wawr), David Wyn Williams, Emily Cole (Mentrau Iaith Cymru), Gwyn Williams (Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg) Meinir Jones (Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg), Dai Bryer (Cyfarwyddwr Talaith y De, Urdd Gobaith Cymru), David Wynn Williams (Cymdeithas yr Iaith)
Ymddiheuriadau
Janet Finch-Saunders AC, Bethan Jenkins AC, Aled Powell (Cymdeithas yr Iaith), Tegwen Morris, Siân Lewis
Eitemau agenda pellach
Eitem 3. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf a gyhoeddwyd ar wefan y Cynulliad
Eitem 4. Cytunwyd hefyd ar bynciau trafod y dyfodol (awgrymwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol). Gan gynnwys:
Y Bil Cynllunio, Dechrau’n Deg, Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith, Cymraeg i Oedolion, Lleiafrifoedd Ethnig a’r Iaith, Mentrau Iaith, TWF / Tyfu gyda’r Gymraeg.
Yn ogystal cytunwyd i ail-edrych ar feysydd trafod cyfarfodydd y flwyddyn diwethaf sef: Dyfodol Cymunedau Cymraeg; Addysg; Comisiynydd y Gymraeg/Mesur Iaith; Cyfryngau a Strategaeth Iaith y Llywodraeth.
Cytunwyd fod sawl maes angen sylw ac awgrwymwyd y dylid cyfuno dau bwnc trafod yn y cyfarfod nesaf; sef y Bil Cynllunio a Dechrau’n Deg.
Eitem 5. Trafodaeth gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, ar Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru. Cyffyrddwyd â nifer o agweddau gan gynnwys Addysg Cyfrwng Cymraeg, Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith a’r Gynhadledd Fawr.
Cyfeirwyd at Ymgyrch Farchnata Addysg Gymraeg y Llywodraeth, sef Byw yng Nghymru: Dysgu yng Nghymru, sy’n targedu teuluoedd â phlant dan 3 oed er mwyn rhannu gwybodaeth am addysg Gymraeg a cheisio chwalu rhai o’r rhagdybiaethau cyfredol.
Nododd y PW fod dyletswydd ar y Llywodraeth i hyrwyddo Addysg Gymraeg ond er mwyn darparu Addysg Gymraeg ar lawr gwlad rhaid dibynnu ar yr Awdurdodau Lleol. Pwysleisiodd y fod mwy o ddyletswydd arnynt i ddiwallu’r galw nag y bu erioed o’r blaen, gan nodi ei fod yn hyderus bod pob ALl yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif a’i fod yn sicr y gwelwn dwf o safbwynt addysg Gymraeg.
Cyfeirwyd at y ffaith fod gwahaniaeth rhwng darparu lleoedd a darparu ysgolion yn lleol. Pwysleisiodd fod angen sicrhau y caiff ysgolion eu hagor mor lleol â phosib.
Ar y pwnc o ddysgu Cymraeg fel ail iaith, derbyniodd adroddiad ym mis Medi ar sut i wella darpariaeth yma ac mae bwriad ganddo ymateb i’r argymhellion a gynhwysir ynddo yn ystod y flwyddyn newydd.
Awgrymwyd bod unigolion yn ganolog mewn gyrru’r sefyllfa gyfredol ac mewn creu arfer da. Disgwylir cyhoeddiad yn y flwyddyn newydd.
Cyfeiriodd y PW at y Gynhadledd Fawr, adroddiad cwmni Iaith Cyf oedd yn cloriannu casgliadau’r gynhadledd ynghyd ag ymateb diweddar y Llywodraeth. Ategodd mai ymateb cychwynnol yn unig oedd hwnnw a’i fod yn aros am argymhellion grŵp gorchwyl a gorffen ar y Mentrau Iaith fydd yn adrodd nôl yn y Gwanwyn cyn ymateb ymhellach.